Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022
Amser:
09.00 -
09.57
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes fod grŵp Llafur yn bwriadu newid yr aelod sydd ganddo ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, o Mike Hedges i Sarah Murphy. Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod yfory:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 13 Medi 2022 –
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (60 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr (45 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 28 Gorffennaf 2022 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - amserlen
Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen arfaethedig gan y Trefnydd a’r ohebiaeth a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a chytunwyd y dylai penderfyniad gael ei wneud ynghylch a ddylai Bil gael ei gyfeirio at bwyllgor cyfrifol i ystyried ei egwyddorion cyffredinol ar ôl iddo gael ei gyflwyno. Felly, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’n dychwelyd i ystyried amserlen y Bil ymhellach ar ddechrau tymor yr hydref, gan ystyried a fu modd gwneud unrhyw waith ymgynghori cyhoeddus dros yr haf.
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Nododd y Pwyllgor y llythyr yn ei thrafodaethau ar yr amserlen ar gyfer Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).
4.3 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd ar y canlynol:
Darparodd y Trefnydd ddiweddariad ar lafar ar y rhaglen Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ehangach.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud ag amserlen y llywodraeth ar gyfer cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch digwyddiad cyllidol a ragwelir gan Lywodraeth y DU yn yr hydref, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen arfaethedig Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad y pwyllgor, sef dydd Llun 6 Chwefror 2023. Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor Busnes y dynodiadau a roddwyd gan y Llywodraeth ei bod yn bosibl y bydd modd addasu’r amserlen unwaith y bydd bwriadau Llywodraeth y DU yn fwy clir.
6 Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y Pwyllgor Deisebau am ddadl ynghylch deiseb P-06-1276: Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ac i drefnu hyn ar gyfer dydd Mercher 28 Medi.
7 Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell
7.1 Canllawiau drafft cyntaf ar drafodion rhithwir a hybrid
Trafododd y Pwyllgor Busnes ganllawiau drafft a luniwyd yn dilyn ei Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytunwyd ar sawl newid yn ymwneud â’r lleoliadau y gall Aelodau bleidleisio ohonynt ac yn ymwneud â’r trefniadau ar gyfer cyfranogiad Aelodau a Gweinidogion mewn cyfarfodydd pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd y canllawiau hefyd yn destun ymgynghori gyda Fforwm y Cadeiryddion cyn eu cyhoeddi gan y Llywydd yn ystod yr hydref. Bydd rhagor o wybodaeth am faterion technegol yn ymwneud â chyfranogiad a phleidleisio yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei darparu ar ddechrau tymor yr hydref.